Gemau'r Gymanwlad 2006: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 307: | Llinell 307: | ||
{{bocs olyniaeth| cyn=[[Gemau'r Gymanwlad 2002|Manceinion]]| teitl= ''[[Gemau'r Gymanwlad]]'' | blynyddoedd=Lleoliad y Gemau| ar ôl=[[Gemau'r Gymanwlad 2010|Delhi Newydd]] }} |
{{bocs olyniaeth| cyn=[[Gemau'r Gymanwlad 2002|Manceinion]]| teitl= ''[[Gemau'r Gymanwlad]]'' | blynyddoedd=Lleoliad y Gemau| ar ôl=[[Gemau'r Gymanwlad 2010|Delhi Newydd]] }} |
||
{{diwedd-bocs}} |
{{diwedd-bocs}} |
||
{{Gemau'r Gymanwlad}} |
{{Gemau'r Gymanwlad}} |
||
{{Chwaraeon yng Ngemau'r Gymanwlad}} |
|||
[[Categori:Gemau'r Gymanwlad|2006]] |
[[Categori:Gemau'r Gymanwlad|2006]] |
Fersiwn yn ôl 21:02, 7 Ebrill 2018
18ed Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 17 | ||
Seremoni agoriadol | 15 Mawrth | ||
Seremoni cau | 26 Mawrth | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Iarll Wessex | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 2006 oedd y deunawfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Melbourne, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 15 - 26 Mawrth. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Gemau'r Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur ond nid oedd angen pleidlais wedi i Wellington, Seland Newydd dynnu'n ôl o'r ras gan adael Melbourne fel yr unig ymgeisydd.
Y tîm cartref oedd â'r tîm mwyaf gyda 535 o athletwyr a swyddogion a Montserrat oedd â'r tîm lleiaf wrth i'r ynys fechan yrru tri athletwr ac un swyddog a chyflwynwyd Pêl-fasged i'r Gemau am y tro cyntaf.
Uchafbwyntiau'r Gemau
Roedd y Gemau'n llwyddiant ysgubol i'r tîm cartref wrth i Awstralia gipio 84 medal aur - record i Gemau'r Gymanwlad - gan gynnwys 16 o'r 19 medal aur oedd ar gael i ferched yn y pwll nofio a'r ddwy gystadleuaeth pêl-fasged, oedd yn ymddangos am y tro cyntaf, ond bu raid iddynt fodloni ar fedal arian yn y pêl-rwyd wrth i Seland Newydd lwyddo i ddod y wlad gyntaf (heb law am Awstralia) i ennill y gystadleuaeth yn y Gemau.
Daeth Alexandra Orlando o Ganada y pedwerydd person i ennill chwe medal aur yn yr un Gemau wrth iddi ennill pob cystadleuaeth Gymnasteg Rhythmig a llwyddodd Alleyne Francique i ennill unig fedal Grenada yn holl hanes y Gemau hyd yma wrth iddo gipio'r fedal arian yn y 400m i ddynion.
Ar y trac beicio, daeth Mark Cavendish i'r amlwg wrth i'r gwibiwr ennill medal aur cyntaf Ynys Manaw ers Gemau Ymerodraeth Prydain 1966 gyda buddugoliaeth yn y Ras scratch. Gwnaeth Chris Froome ei unig ymddangosiad yn y Gemau hefyd gan gynrychioli Cenia - daeth yn 17eg yn y Ras yn erbyn y cloc, yn 25ain yn y ras lôn ac yn 24ain yn y gystadleuaeth beicio mynydd.[1]
Chwaraeon
|
Timau yn cystadlu
Cafwyd 72 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2002
Tabl Medalau
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Awstralia | 84 | 69 | 69 | 222 |
2 | Lloegr | 36 | 40 | 34 | 110 |
3 | Canada | 26 | 29 | 31 | 86 |
4 | India | 22 | 17 | 11 | 50 |
5 | De Affrica | 12 | 13 | 13 | 38 |
6 | Yr Alban | 11 | 7 | 11 | 29 |
7 | Jamaica | 10 | 4 | 8 | 22 |
8 | Malaysia | 7 | 12 | 10 | 29 |
9 | Seland Newydd | 6 | 12 | 13 | 31 |
10 | Cenia | 6 | 5 | 7 | 18 |
11 | Singapôr | 5 | 6 | 7 | 18 |
12 | Nigeria | 4 | 6 | 7 | 17 |
13 | Cymru | 3 | 5 | 11 | 19 |
14 | Cyprus | 3 | 1 | 2 | 6 |
15 | Ghana | 2 | 0 | 1 | 3 |
15 | Wganda | 2 | 0 | 1 | 3 |
17 | Pacistan | 1 | 3 | 1 | 5 |
18 | Papua Gini Newydd | 1 | 1 | 0 | 2 |
19 | Ynys Manaw | 1 | 0 | 1 | 2 |
19 | Namibia | 1 | 0 | 1 | 2 |
19 | Tansanïa | 1 | 0 | 1 | 2 |
22 | Sri Lanca | 1 | 0 | 0 | 1 |
23 | Mawrisiws | 0 | 3 | 0 | 3 |
24 | Bahamas | 0 | 2 | 0 | 2 |
24 | Gogledd Iwerddon | 0 | 2 | 0 | 2 |
26 | Camerŵn | 0 | 1 | 2 | 3 |
27 | Botswana | 0 | 1 | 1 | 2 |
27 | Malta | 0 | 1 | 1 | 2 |
27 | Nawrw | 0 | 1 | 1 | 2 |
30 | Bangladesh | 0 | 1 | 0 | 1 |
30 | Grenada | 0 | 1 | 0 | 1 |
30 | Lesotho | 0 | 1 | 0 | 1 |
33 | Trinidad a Tobago | 0 | 0 | 3 | 3 |
34 | Seychelles | 0 | 0 | 2 | 2 |
35 | Barbados | 0 | 0 | 1 | 1 |
35 | Ffiji | 0 | 0 | 1 | 1 |
35 | Mosambic | 0 | 0 | 1 | 1 |
35 | Samoa | 0 | 0 | 1 | 1 |
35 | Swaziland | 0 | 0 | 1 | 1 |
Cyfanswm | 245 | 244 | 254 | 743 |
Medalau'r Cymry
Roedd 143 aelod yn nhîm Cymru.
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Michaela Breeze | Codi Pwysau | 63 kg (Cyfuniad) |
Aur | David Davies | Nofio | 1500m Dull rhydd |
Aur | David Phelps | Saethu | 50m Reiffl tra'n gorwedd |
Arian | Julie Crane | Athletau | Naid uchel |
Arian | Kevin Evans | Bocsio | dros 91 kg |
Arian | Robert Weale | Bowlio Lawnt | Senglau |
Arian | Elizabeth Morgan | Bowlio Lawnt | Senglau |
Arian | David Eaton | Gymnasteg | Bar llorweddol |
Efydd | Beverley Jones | Athletau | 100m T38 |
Efydd | Hayley Tullett | Athletau | 1500m |
Efydd | Nicole Cooke | Beicio | Ras lôn |
Efydd | Geraint Thomas | Beicio | Ras bwyntiau |
Efydd | Mohammed Nasir | Bocsio | o dan 48 kg |
Efydd | Darren Lee Edwards | Bocsio | 57 kg |
Efydd | Jamie Crees | Bocsio | 64 kg |
Efydd | Johanne Brekke | Saethu | Reiffl 50m tra'n gorwedd |
Efydd | David Phelps a Gruffudd Morgan |
Saethu | Parau reiffl 50m tra'n gorwedd |
Efydd | David Roberts | Nofio | 100m Dull rhydd i'r anabl |
Efydd | David Davies | Nofio | 400m Dull rhydd |
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Manceinion |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Delhi Newydd |