Dua Lipa
Dua Lipa | |
---|---|
Ganwyd | Dua Lipa 22 Awst 1995 Westminster, Llundain |
Man preswyl | West Hampstead, Prishtina, Beverly Hills |
Label recordio | Warner Records Inc., Urban, Vertigo Records, Atlantic Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Albania |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon, model, dylunydd ffasiwn, actor, podcastiwr, pop singer, cyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm |
Adnabyddus am | New Rules, One Kiss, Don't Start Now, Future Nostalgia, Levitating |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, post-disco, House, funktronica, indie pop, dream pop, synthpop |
Math o lais | mezzo-soprano |
Prif ddylanwad | Pink, Nelly Furtado, OutKast |
Taldra | 173 centimetr |
Mudiad | ffeministiaeth, Mudiadau cymdeithasol LHDT, Black Lives Matter, abortion-rights movement |
Tad | Dukagjin Lipa |
Mam | Anesa Lipa |
Partner | Isaac Carew, Paul Klein, Isaac Carew, Anwar Hadid, Romain Gavras, Callum Turner |
Perthnasau | Seit Lipa |
Gwobr/au | Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Grammy Award for Best Dance/Electronic Recording, Brit Award for British Breakthrough Act, Brit Award for British Female Solo Artist, Brit Award for British Single of the Year, Grammy Award for Best Pop Vocal Album, Honorary Ambassador of Kosovo |
Gwefan | https://dualipa.com |
llofnod | |
Cantores, cyfansoddwr a model Seisnig yw Dua Lipa (ganwyd 22 Awst 1995).
Ar ôl gweithio fel model, fe arwyddodd gyda Warner Music Group yn 2015 a rhyddhau ei chân gyntaf, "New Love". Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf yn 2017, a oedd yn cynnwys saith sengl, gan gynnwys dwy sengl 'top-ten' yn y DU "Be the One" ac "IDGAF", a sengl rhif un yn y DU "New Rules", a hefyd gyrhaeddodd rif chwech yn yr Unol Daleithiau. Cyrhaeddodd y sengl "One Kiss" gyda Calvin Harris rif un yn y DU, a ddaeth yn y rhif un hiraf i artist benywaidd yn 2018. Fe wnaeth llwyddiant y senglau helpu ei halbwm hunan-deitl i ddod yr albwm benywaidd a oedd wedi'i ffrydio fwyaf erioed ar Spotify, ac i fynd yn platinwm mewn sawl gwlad, gan gynnwys y DU a'r UDA. Mae hi wedi derbyn tair Gwobr Brit a dwy Wobr Grammy.
Bywyd cynnar
Ganwyd Dua Lipa ar y 22 Awst 1995 yn Westminster, Llundain, i rieni o Cosofo ac Albania. Ystyr ei henw cyntaf yw "cariad" yn Albaneg. Esboniodd Lipa "Nawr rwy'n falch ohono. Nawr rydw i. Ond pan oeddwn i'n tyfu i fyny, y cyfan roeddwn i eisiau oedd cael fy ngalw yn Hannah, Sarah, Ella ... unrhyw beth normal. Oherwydd gyda Dua roedd yn rhaid i chi egluro: dwi'n dod o Kosovo."[1]
Albymau
- Dua Lipa (2017)
Cyfeiriadau
- ↑ Dua Lipa (4 October 2017). "Patrizia meets Dua" (Cyfweliad) (yn Saesneg a Eidaleg). Cyfwelwyd gan Patrizia Pepe. Cyrchwyd 15 December 2017 – drwy YouTube.