338 CC
Gwedd
5g CC - 4g CC - 3g CC
380au CC 370au CC 360au CC 350au CC 340au CC - 330au CC - 320au CC 310au CC 300au CC 290au CC 280au CC
343 CC 342 CC 341 CC 340 CC 339 CC - 338 CC - 337 CC 336 CC 335 CC 334 CC 333 CC
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Llywodraethwr Ymerodraeth Persia, Bagoas, yn llofruddio'r brenin Artaxerxes III ac yn gwneud mab ieuengaf Artaxerxes, Arses, yn frenin fel Artaxerxes IV.
- Athen yn trefnu cynghrair ag Euboea, Megara, Achaea, Corinth, Acarnania ac eraill i wrthwynebu Philip II, brenin Macedon. Mae'r arweinydd Athenaidd Demosthenes yn perswadio dinas Thebai i ymuno a'r cynghrair.
- 2 Awst — Philip II yn gorchfygu Athen a Thebai ym Mrwydr Chaeronea yng ngorllewin Boeotia. Mae mab Philip, Alecsander, yn gadfridog adain chwith byddin Macedon.
- Philip II yn ymgyrchu yn y Peloponnesos, gan orchfygu Thessalia a Sparta.
- Lleddir Archidamus III, brenin Sparta yn ne yr Eidal tra'n arwain byddin o hurfilwyr i gynorthwyo Tarentum yn erbyn y Lucaniaid. Olynir ef gan ei fab, Agis III.