Llenyddiaeth Albaneg
Y corff o weithiau llenyddol a ysgrifennir yn yr iaith Albaneg, yr iaith sydd yn frodorol i'r Albaniaid, yw llenyddiaeth Albaneg, boed hynny gan lenorion o Albania, Cosofo, Gogledd Macedonia, Groeg, neu wledydd eraill. Ysgrifennwyd yr iaith yn gyntaf yn y 13g, a chlerigwyr Catholig oedd yn gyfrifol am y mwyafrif helaeth o gynyrchiadau llenyddol hyd at y 18g. Yn y cyfnod hwnnw, rheolwyd mamwlad yr Albaniaid gan Ymerodraeth yr Otomaniaid a chyfyngwyd ar y wasg argraffu yn y tiroedd hynny, felly bu'n rhaid cyhoeddi llên yn yr iaith mewn gwledydd eraill. Oherwydd y gwaharddiad ar gyhoeddiadau Albaneg, bu'r iaith lenyddol yn araf yn datblygu. Adfywiodd llenyddiaeth Albaneg yn sgil dyfodiad Rhamantiaeth a chenedlaetholdeb yn y 19g. Bu nifer o lenorion yn ymdrin â diwylliant ac hanes yr Albaniaid yn eu hiaith frodorol, ac astudiodd ysgolheigion lên gwerin ac ieithyddiaeth. Yn niwedd y 19g, cyhoeddwyd mwy a mwy o lyfrau yn Albaneg.
Gweithiau cynharaf (13g–14g)
[golygu | golygu cod]Yn 1998, cafwyd hyd i'r enghraifft hynaf o Albaneg ysgrifenedig yn archifau'r Fatican gan yr ysgolhaig Musa Ahmeti: llawysgrif parsment goliwiedig ar bynciau diwinyddiaeth, athroniaeth, ac hanes y byd gan Teodor Shkodrani, gyda'r dyddiad 1210. Ymhlith yr esiamplau eraill o lenyddiaeth Albaneg gynnar mae ffurfeb bedydd o 1462, a'r llyfr offeren Meshari (1555) gan yr offeiriad Catholig Gjon Buzuku. Yn 1635, cyhoeddwyd y geiriadur Albaneg cyntaf, Dictionarium latino-epiroticum, gan yr Esgob Frang Bardhi (1606–43).
Yr oes Otomanaidd (15g–19g)
[golygu | golygu cod]Arloeswyd ysgrifennu a chyhoeddi drwy gyfrwng yr Albaneg yn y 15g a'r 16g drwy lenyddiaeth grefyddol a didactig gan glerigwyr yr Eglwys Gatholig. Buont yn manteisio ar eu cysylltiadau â'r Babaeth i gyhoeddi eu gwaith y tu allan i Albania, yn Rhufain yn bennaf, ac felly osgoi'r cyfyngiadau ar lenyddiaeth a orfodwyd yn y famwlad dan Ymerodraeth yr Otomaniaid.
Yn y 19g ymledodd y mudiad Rhamantaidd i Albania, ac ysgrifennodd mwy o lenorion ar bynciau seciwlar, yn enwedig am eu diwylliant cynhenid a'u hanes cenedlaethol. Yn debyg i nifer o wledydd Ewropeaidd eraill, magwyd ysgolheictod yn Albaneg i ymdrin â llên gwerin ac astudiaethau ieithyddol ar yr un pryd bu ffyniant mewn themâu gwladgarol gan awduron.
Yn ail hanner y 19g bu deffroad cenedlaethol yr Albaniaid. Ysgogwyd rhagor o lenydda yn sgil ffurfio Cynghrair Prizren yn 1878 a'i ymgyrch dros annibyniaeth i'r Albaniaid. Sefydlwyd sawl cymdeithas wladgarol a llenyddol gan yr Albaniaid ar wasgar, yn Istanbwl, Bwcarést, Sofia, Cairo, a Boston, Massachusetts, i hyrwyddo diwylliant Albaneg ac i ymgyrchu dros annibyniaeth wleidyddol i'r Albaniaid. Y genedl oedd y brif thema yn llenyddiaeth Albaneg y cyfnod hwn, a elwir Rilindja ("Dadeni"). Un o'r prif Rilindas, fel y gelwir llenorion y cyfnod hwn, oedd Naim Frashëri (1846–1900) sydd yn nodedig am ei fugeilgerdd Bagëti e bujqësia (1886) a'r arwrgerdd Istori e Skënderbeut (1898). Caiff Frashëri ei ystyried bellach gan rai yn fardd cenedlaethol Albania.
Llenyddiaeth yr Arberesh
[golygu | golygu cod]Daeth nifer o lenorion Albaneg y 19g o gymuned yr Arberesh, sydd yn disgyn o Albaniaid Tosc a ymfudasant i dde'r Eidal a Sisili yn ystod yr Oesoedd Canol. Mewn sawl achos, rhain oedd yr awduron cyntaf i arbrofi â genres newydd yn llenyddiaeth Albaneg. Buont yn manteisio ar ryddid mynegiant yn yr Eidal o'i cymharu â'r sefyllfa dan drefn yr Otomaniaid, ac yma cedwid diwylliant cynhenid yr Albaniaid yn fyw. Un o'r prif lenorion Arberesh oedd Jeronim de Rada (1814–1903), bardd yn yr arddull Rhamantaidd a sefydlydd y cylchgrawn cyntaf yn Albaneg, Fiámuri Arbërit (1883–88). Ei gampwaith ydy'r faled wladgarol Këngët e Milosaos (1836). Ymhlith y llenorion Arberesh eraill mae'r nofelydd, bardd a dramodydd Françesk Anton Santori (1819–94), yr ieithegwr a llên-gwerinwr Dhimitër Kamarda (1821–82), y bardd Zef Serembe (1844–1901), y bardd a deallusyn Gavril Dara i Riu (1826–85), a'r bardd, ieithydd a llên-gwerinwr Zef Skiroi (1865–1927).
Safoni'r iaith lenyddol
[golygu | golygu cod]Yn 1908 ymgynullodd ieithyddion, ysgolheigion, a llenorion Albaneg yng Nghyngres Monastir (heddiw Bitola, Gogledd Macedonia) i safoni'r wyddor Albaneg fodern, a honno ar sail yr wyddor Ladin. Llywydd y gynhadledd oedd Mid’hat Frashëri (1880–1949), awdur y gyfrol o straeon ac ysgrifau Hi dhe shpuzë (1915). Cynhaliwyd Cyngres Orgraff yn Tirana yn 1972 i gytuno ar reolau ar gyfer ffurf lenyddol ar Albaneg ar sail y ddwy brif dafodiaith, Geg a Tosc. Ers hynny, mae'r mwyafrif o awduron Albaneg wedi ysgrifennu drwy gyfrwng yr iaith lenyddol hon.
Llenyddiaeth gyfoes (20g–21g)
[golygu | golygu cod]Nodir llenyddiaeth Albaneg yn nechrau'r 20g gan nodweddion realaidd a sinigaidd, gan amlaf wrth ymdrin â phroblemau cymdeithasol megis tlodi, anllythrennedd, y gynnen waed, a biwrocratiaeth. Un o brif feirdd y cyfnod, a ystyrir yn fardd cenedlaethol Albania gan rai, oedd Gjergj Fishta (1871–1940). Dychanwr o nod oedd Fishta, ond fe'i cofir bellach am ei faled hir Lahuta e malcís (1937) sydd yn canu clodydd yr ucheldirwyr Albaniaidd. Sefydlydd beirniadaeth lenyddol Albaneg oedd y cyhoeddwr, polemegwr, ac arddullydd Faik Konica (1875–1942), a ddefnyddiodd ei gylchgrawn Albania (1897–1909) i hyrwyddo egin feirdd ac eraill. Bardd, beirniad, ac hanesydd oedd Fan Noli (1882–1965) sydd hefyd yn nodedig am ei gyfieithiadau i'r Albaneg o ddramâu a straeon gan William Shakespeare, Henrik Ibsen, Miguel de Cervantes, ac Edgar Allan Poe.
Ymhlith y ffigurau eraill o hanner cyntaf yr 20g mae'r bardd ac awdur geiriau anthem genedlaethol Albania, Aleksandër Stavre Drenova (Asdreni; 1872–1947), y bardd a dramodydd Andon Zako Çajupi (1866–1930), y ffuglennwr a bardd Ernest Koliqi (1903–75), y bardd ac ieithydd Ndre Mjeda (1866–1937), a'r bardd a nofelydd Milosh Gjergj Nikolla (Migjeni; 1911–38). Bardd unigryw oedd y telynegwr Lasgush Poradeci (1899–1987).
Yn ystod y cyfnod comiwnyddol yn Albania (1946–92), gosodwyd rhwystrau ar fynegiant diwylliannol yn y wlad, a Realaeth Sosialaidd oedd arddull swyddogol y wlad. Er gwaethaf, ymdrechodd nifer o lenorion fod yn drech na'r cyfyngiadau hyn, yn eu plith y beirdd Dritëro Agolli (1931–2017) a Fatos Arapi (1930–2018) a'r awdur straeon byrion Naum Prifti (g. 1932). Y prif awdur yn llenyddiaeth Albaneg ers y 1960au ydy'r nofelydd Ismail Kadare (g. 1936).