Cwlen
Math | dinas Hanseatig, metropolis, dinas Rhyfeinig, bwrdeistref trefol yr Almaen, dinas fawr, urban district of North Rhine-Westphalia |
---|---|
Enwyd ar ôl | Colonia Claudia Ara Agrippinensium |
Poblogaeth | 1,084,831 |
Pennaeth llywodraeth | Henriette Reker |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Lerpwl, Esch-sur-Alzette, Lille, Liège, Rotterdam, Torino, Kyoto, Tiwnis, Turku, Neukölln, Cluj-Napoca, Tel Aviv, Barcelona, Beijing, Thessaloníci, Corc, Corinto, Indianapolis, Volgograd, Treptow-Köpenick, Katowice, Bethlehem, Istanbul, Rio de Janeiro, Jiaozuo |
Nawddsant | Sant Pedr |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Llywodraethol Cwlen |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 405.01 km² |
Uwch y môr | 59 metr |
Gerllaw | Afon Rhein |
Yn ffinio gyda | Ardal Rhein-Erft, Ardal Rhein-Sieg, Ardal Rhein-Berg, Leverkusen, Mettmann, Rhein-Kreis Neuss, Hürth |
Cyfesurynnau | 50.9422°N 6.9578°E |
Cod post | 51149, 50667, 50668, 50670, 50672, 50674, 50677, 50676, 50678, 50679, 50765, 50767, 50733, 50735, 50737, 50739, 50823, 50825, 50827, 50829, 50833, 50858, 50859, 50931, 50935, 50937, 50939, 50968, 50969, 50996, 50997, 50999, 51061, 51063, 51065, 51067, 51069, 51103, 51105, 51107, 51109, 51143, 51145, 51147 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Cwlen |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arglwydd Faer Cwlen |
Pennaeth y Llywodraeth | Henriette Reker |
Pedwaredd dinas fwyaf yr Almaen yw Cwlen (Almaeneg: Köln /kœln/, Ffrangeg a Saesneg: Cologne) ar ôl Berlin, Hambwrg a München, gyda tua un filiwn o drigolion. Mae wedi'i lleoli yn nhalaith Nordrhein-Westfalen, ar lan Afon Rhein. Mae hi'n adnabyddus iawn am ei heglwys gadeiriol yn y dull Gothig.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuodd yr hanes Cwlen tua dwyfil o flynyddoedd yn ôl gan sefydliad y ddinas gan y Rhufeinwyr yn 19 OC. Enw cyntaf y ddinas oedd "Oppidum Ubiorum" tan 50 OC, pan codwyd y dref i ddinas gan ymerawdwr Rhufain Claudius ar ôl i'w wraig e Agrippina, sydd fod wedi ceni yn Oppidum Ubiorum ac yn wnes ymlaen wedi mynd i Rufain, erchi iddo fe am hynny. Newidiwyd enw'r ddinas i "Colonia Claudia Ara Agrippinensium", neu CCAA yn fyr wedyn. Datblygwyd enw diwedda'r ddinas, Köln o'r gair Lladin Colonia, sy'n golygu gwladfa. Mae'r enwau yn llawer o ieithiau eraill, fel Cologne yn y Saesneg a Ffrangeg, Kolonia yn y Pwyleg, a hefyd Cwlen yn y Gymraeg yn dod o honna.
Santes Ursula
[golygu | golygu cod]Roedd Ursula yn dywysgoges o deyrnas Dumnonia (Dyfnaint). Ar gais ei thad, hwyliodd am Lydaw at ei darpar-ŵr Cynan Meiriadog, gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau Gâl mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar bererindod. Aeth i ddinas Rhufain, ac yna ymlaen i Gwlen, oedd dan warchae gan yr Hyniaid. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd Ursula ei hun yn farw gan arweinydd yr Hyniaid. Dywedir i hyn ddigwydd tua 383. Ym Masilica y Santes Ursula yng Nghwlen, ceir creiriau y dywedir eu bod yn weddillion Ursula a'r gwyryfon. Daeth Cwlen yn ganolfan pererindod o bwys mawr yn yr Oesoedd Canol gyda phobl yn tyrru yno o bob rhan o Ewrop. Ceir delwedd o'r Santes Ursula ar arfbais Baner Ynysoedd Morwynnol Prydain yn y Caribî.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Römisch-Germanisches
- Amgueddfa Wallraf-Richartz
- Colonius
- Eglwys gadeiriol
- Hansa Hochhaus
- Kölner Philharmonie
- Kölnturm
- Lanxess Arena
- Messeturm Köln
- RheinEnergieStadion
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Carl Bosch (1874-1940), cemegydd
- Jacques Offenbach (1819-1880), cyfansoddwr
- Konrad Adenauer (1876-1967), gwladweinydd
- Heinrich Böll (1917–1985), Awdur Almaeneg
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Tri Brenin o Gwlen - un'r dramâu mirag cynharaf[1]