Òmnium Cultural
Math | sefydliad diwylliannol |
---|---|
Sefydlwyd | 11 Gorffennaf 1961 |
Cadeirydd | Muriel Casals i Couturier, Jordi Cuixart i Navarro, Quim Torra |
Pencadlys | Barcelona |
Refeniw | 8,682,739 Ewro (2020) |
Gwefan | https://www.omnium.cat/ |
Cymdeithas o bobl gyda'u pencadlys yn Barcelona, Catalwnia, yw Òmnium Cultural a sefydlwyd yn y 1960au i hyrwyddo'r Gatalaneg a diwylliant Catalwnia.[1] Bellach, mae hefyd yn ymwneud â materion cymdeithasol, ac yn 2012 datganodd ei bod o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.[2][3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Daeth Òmnium Cultural i fodolaeth ar 11 Gorffennaf 1961, pan oedd yr unben Francisco Franco wedi gwahardd y defnydd o'r Gatalaneg yn y cyfnod a elwir yn España franquista. Ataliwyd y gymdeithas rhag gweithredu mewn unrhyw fodd yn 1963, ond gweithredodd yn dawel rhwng 1963 a 1967 pan ymladdodd achos mewn llys, a rhoddwyd yr hawl i'r gymdeithas fodoli, unwaith eto.
Daeth unbeniaeth totalitaraidd Franco i ben yn 1975 a sefydlodd Òmnium nifer o wobrau a nawdd cenedlaethol er mwyn hyrwyddo diwylliant Catalanaidd, gan gynnwys Premi d'Honor de les Lletres Catalanes (1969) a gŵyl ddiwylliannol y Nit de Santa Llúcia . Gweithiodd ar y cyd gyda Llywodraeth Catalwnia i hyrwyddo iaith a diwylliant. Yn 1984, am ei waith ddiflino, derbyniodd Òmnium y wobr Creu de Sant Jordi gan Lywodraeth Catalwnia.[4][5]
Yn 2010, pan wrthododd Llys Cyfansoddiadol Sbaen Ddeddf Ymreolaeth newydd y Llywodraeth, trefnodd Òmnium brotest o dros filiwn o bobl ar strydoedd Barcelona.[6][7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Òmnium Cultural". Òmnium Cultural. Cyrchwyd 23 Medi 2015.
- ↑ Ediciones El País. "Òmnium adapta su ideario al secesionismo". EL PAÍS. Cyrchwyd 23 Medi 2015.
- ↑ "What's going on in Catalonia?". Òmnium Cultural. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-25. Cyrchwyd 23 Medi 2015.
- ↑ "Resultats i fitxa". Diari Oficial de la Generalitat de Catalunya.
- ↑ "Muriel Casals releva a Jordi Porta al frente de Òmnium". Cyrchwyd 2015-06-23.
- ↑ Gaspar Pericay Coll. "Catalan News Agency - The Constitutional Court rejects the exclusion of its President requested by the Catalan Government". catalannewsagency.com. Cyrchwyd 23 Medi 2015.
- ↑ Nodyn:Cite av media