Benjamin Netanyahu
Benjamin Netanyahu | |
---|---|
Ffugenw | Ben Nitay |
Ganwyd | בנימין נתניהו 21 Hydref 1949 Tel Aviv |
Man preswyl | Beit Aghion, Caesarea, Jeriwsalem |
Dinasyddiaeth | Israel |
Addysg | Baglor mewn Gwyddoniaeth, Meistr yn y Gwyddorau |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, gwladweinydd, person milwrol, ysgrifennwr gwleidyddol, gwyddonydd gwleidyddol |
Swydd | Permanent Representative of Israel to the United Nations, Prif Weinidog Israel, Prif Weinidog Israel, Arweinydd yr Wrthblaid, Aelod o'r Knesset, Minister of Foreign Affairs, Israel, Minister of Foreign Affairs, Israel, Minister of Finance, Minister of Finance, Minister of Finance, Minister of Health, Deputy Minister of Foreign Affairs, Deputy Minister of Foreign Affairs, Aelod o'r Knesset, Regional Development Minister of Israel, Minister of Communications, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Minister of Religious Services, Minister of Religious Services, Minister of Religious Services, Aelod o'r Knesset, Minister of Economy, Prif Weinidog Israel |
Adnabyddus am | A Place Among the Nations, Fighting Terrorism, Bibi: My Story, Terrorism: How the West Can Win |
Plaid Wleidyddol | Likud |
Tad | Benzion Netanyahu |
Mam | Zila Netanyahu |
Priod | Sara Netanyahu, Miki Weizman Haram, Fleur Cates |
Plant | Noa Roth, Yair Netanyahu, Avner Netanyahu |
Perthnasau | Shmuel Ben-Artzi, Elisha Netanyahu, Nathan Netanyahu, Shoshana Netanyahu |
Llinach | Netanyahu family |
Gwobr/au | Jabotinsky Medal, Tzeltner Prize, honorary doctor of the Bar-Ilan University, Urdd Croes y De, Irving Kristol Award |
Gwefan | https://www.netanyahu.org.il |
llofnod | |
Benjamin "Bibi" Netanyahu, hefyd Binyamin Netanyahu (ganed 21 Hydref 1949) yw nawfed Prif Weinidog Israel. Cafodd ei wneud yn Brif Weinidog ym Mawrth 2009. Mae hefyd yn Gadeirydd y Blaid Likud ac yn aelod o'r Knesset; ef hefyd ydy Gweinidog dros Iechyd ei wlad, Gweinidog Pensiynau a Gweinidog dros Strategaeth Economaidd Israel.
Ef ydy'r Prif Weinidog cyntaf i gael ei eni ar ôl creu Israel yn wladwriaeth sofran. Ymunodd â llu arfog Israel yn 1967 gan wasanaethu fel 'commander' yn yr uned gomando a elwir yn Sayeret Matkal gan gymryd rhan mewn sawl ymgyrch milwrol gan gynnwys achub gwystlon y 'Sabena Flight 572' yn 1972. Ymladdodd yn Rhyfel Yom Kippur yn 1973 a chael ei wneud yn gapten a gadael y fydin.
Cynrychiolodd Israel ar y Cenhedloedd Unedig o 1984 hyd at 1988, ac fe'i gwnaed yn Brif Weinidog rhwng 1996 a 1999. Cafodd ei wneud yn Ysgrifennydd Tramor rhwng 2002 a 2003, yn Ysgrifennydd Materion Ariannol yn Awst 2005 yn Llywodraeth Ariel Sharon gan adael ar ôl anghytuno ynghylch Llain Gaza.
Ailafaelodd yn awenau ei blaid ar 20 Rhagfyr 2005 gan eu harwain fel gwrth-blaid. Yn etholiadau 2009 ail oedd Likud ond ffurfiwyd llywodraeth clymblaid.[1]
Mae'n frawd i Yonatan Netanyahu, sy'n gomander ym myddin Israel ac a fu farw wrth geisio achub gwystlon yn 'Operation Entebbe'. Ei frawd arall yw Iddo Netanyahu sy'n llenor.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyhoeddiad Haaretz Archifwyd 2010-01-02 yn y Peiriant Wayback; 01-04-2009.