Charles Watkin Williams-Wynn (1775–1850)
Charles Watkin Williams-Wynn | |
---|---|
Ganwyd | 9 Hydref 1775 |
Bu farw | 2 Medi 1850 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, bargyfreithiwr |
Swydd | Llywydd y Bwrdd Rheoli, Ysgrifennydd Rhyfel, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, President of the Royal Asiatic Society of Great Britain and Ireland |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig |
Mam | Charlotte Williams-Wynn |
Priod | Mary Cunliffe |
Plant | Sydney Williams-Wynn, Hariot Hester Williams-Wynn, Charlotte Williams-Wynn, Mary Williams-Wynn, Charles Watkin Williams-Wynn, Henry Watkin Williams-Wynn |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Roedd y Gwir Anrhydeddus Charles Watkin Williams-Wynn (9 Hydref, 1775 – 2 Medi, 1850) yn wleidydd o Gymru. Bu'n cynrychioli'r sedd bwdr enwog Hen Sallog (Old Sarum) o 1797 i 1799 ac yna etholaeth Sir Drefaldwyn o 1799 i 1850. Gwasanaethodd fel gweinidog mewn gweinyddiaethau Torïaidd a Chwigaidd. Roedd yn Dad Tŷ'r Cyffredin (yr aelod efo'r cyfnod hiraf o wasanaeth di-dor) rhwng 1847 a 1850.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd Charles Watkin yn ail fab i Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig Wynnstay, Rhiwabon a Charlotte (née Grenville) ei wraig. Roedd y Ledi Charlotte yn ferch i George Grenville, Prif Weinidog Prydain (1763–1765) ac yn chwaer i William Wyndham Grenville, Barwn 1af Grenville (Prif Weinidog 1806–1807).
Addysgwyd Williams-Wynn yn Ysgol Westminster ac Eglwys Crist, Rhydychen gan raddio B.A. ym 1795, ac M.A. ym 1798. Cyfaill ysgol iddo oedd y bardd Robert Southey a bu Williams-Wynn yn noddi ei yrfa farddonol.
Priododd Mary Cunliffe, merch Syr Foster Cunliffe, 3ydd Barwnig, ym 1806. Bu iddynt saith o blant, dau fab a phum merch. Roedd eiumerch hynaf Charlotte Williams-Wynn yn ddyddiadurwr nodedig; bu ei fab hynaf, Charles Watkin Williams-Wynn (1822-1896), hefyd yn gwasanaethu fel AS Sir Drefaldwyn.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Galwyd Williams-Wynn i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1798 a bu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghylchdeithiau Rhydychen a Gogledd Cymru. Cafodd ei benodi yn feinciwr ym 1835. Bu yn Gofiadur Llys Sirol Croesoswallt 1798-1835[2]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ym 1797 cafodd Williams-Wynn ei ethol i'r senedd fel un o'r ddau aelod a etholwyd gan lond llaw o fwrdeiswyr absennol ar gyfer etholaeth bwdr Hen Sallog o dan nawdd Richard Wellesley, 2il Iarll Mornington. Pan ddaeth hen sedd ei daid Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig, Sir Drefaldwyn, yn rhydd ym 1799 ymddiswyddodd fel aelod Hen Sallog a chael ei ethol dros Sir Drefaldwyn gan dal y sedd am 51 mlynedd ganlynol.
Ym 1806 fe'i penodwyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref yn y Weinyddiaeth a arweiniwyd gan ei ewythr yr Arglwydd Grenville. Parhaodd yn y swydd hyd ddymchwel y llywodraeth y flwyddyn ganlynol. Roedd Williams-Wynn yn aelod gweithgar o'r Senedd ac yn cael ei ystyried yn awdurdod ar drefn Tŷ’r Cyffredin, gan hynny cafodd ei enwebu ar gyfer swydd y Llefarydd ym 1817, ond oherwydd nam ar ei leferydd awgrymodd rhai o'i wrthwynebwyr mai Squeaker byddai nid Speaker a chafodd ei orchfygu ar bleidlais gan Charles Manners Sutton.[3]
Yn y 1810au roedd Williams-Wynn yn arweinydd grŵp o Aelodau Seneddol a geisiodd, yn aflwyddiannus, i sefydlu trydedd blaid yn Nhŷ'r Cyffredin o dan nawdd ei gefnder yr Arglwydd Buckingham. Wedi methiant yr ymgyrch i greu trydedd blaid ymunodd a'r Torïaid.[4]
Ym mis Ionawr 1822 cafodd Williams-Wynn ei dderbyn i'r Cyfrin Gyngor a'i benodi yn Llywydd y Bwrdd Rheoli, gyda sedd yng nghabinet yn llywodraeth Dorïaidd Iarll Lerpwl. Arhosodd yn y swydd hon yng ngweinyddiaethau George Canning a'r Arglwydd Goderich. Pan ddaeth Dug Wellington yn Brif Weinidog yn 1828, ni chafodd cynnig swydd yn y llywodraeth gan hynny fe ymunodd a'r Chwigiaid a phan ddaeth y blaid honno i rym o dan arweiniad yr Arglwydd Grey ym 1830 penodwyd Williams-Wynn yn Ysgrifennydd Ryfel, ond heb sedd yn y cabinet. Parhaodd yn y swydd hyd fis Ebrill 1831 ond ni chafodd cynnig unrhyw swydd arall yn llywodraeth y Chwigiaid. Yn 1834 dychwelodd y Torïaid i rym o dan Syr Robert Peel, a phenodwyd Williams-Wynn yn Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn. Syrthiodd llywodraeth Peel mis Ebrill 1835 ac ni phenodwyd Williams-Wynn i unrhyw swydd wedi hynny. Parhaodd i gynrychioli Maldwyn yn y Senedd hyd ei farwolaeth ym 1850, rhwng 1847-1850 roedd yn Dad Tŷ'r Cyffredin.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Williams-Wynn yn 20 Stryd Grafton, Llundain, ar 2 Medi 1850 yn 74 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion mewn claddgell deuluol yng Nghapel San Siôr, Bayswater, Llundain.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Wynn, Charles Watkin Williams (DNB00), Wikisource [1] adalwyd 17 Mai 2015
- ↑ Charles Watkin Williams Wynn (1775–1850) ail gyhoeddwyd ar wefan History Home [2] adalwyd 17 Mai 2015
- ↑ WILLIAMS WYNN, Charles Watkin (1775–1850), of Langedwyn, Denb. yn History of Parliament online [3] adalwyd 17 Mai 2015
- ↑ The Defectors: A history of crossing the floor, Total Politics 2013 [4] Archifwyd 2015-10-15 yn y Peiriant Wayback adalwyd 17 Mai 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Francis Lloyd |
Aelod Seneddol Maldwyn 1799 – 1850 |
Olynydd: Herbert Watkin Williams-Wynn |