Cymuned La Oroya v. Periw
Enghraifft o'r canlynol | achos gyfreithiol |
---|---|
Gwladwriaeth | Periw |
Achos llys oedd Cymuned La Oroya v. Periw a oedd yn ymwneud â hawliau dynol cymuned La Oroya, yn nhalaith Yauli, Periw. Eisteddodd Llys Hawliau Dynol Rhyng-America i glywed achos trigolion La Oroya, Periw, yn erbyn eu gwlad, gan fynnu bod eu hawliau sylfaenol wedi'u torri ers degawdau oherwydd halogiad metalau trwm o waith mwyndoddi aur ac arian.[1] Cynheliwyd yr achos yn Montevideo, Wrwgwái ac enillodd y trigolion eu hachos.
Canfuwyd bod gan drigolion y pentref grynodiad brawychus o uchel o blwm yn eu gwaed a'u dŵr yfed, ac mae llawer yn cael trafferthion gyda'u hanadlu. Dangosodd astudiaeth ym 1999 (a gynhaliwyd ddwy flynedd ar ôl cychwyn y Doe Run) lefelau uchel o lygredd aer, gyda 85 gwaith yn fwy arsenig, 41 gwaith yn fwy o gadmiwm, a 13 gwaith yn fwy o blwm na'r symiau a ystyrir yn gyffredinol yn ddiogel.[2][3]
Mae pwysigrwydd La Oroya v. Perú yn ddeublyg: gallai sefydlu ymhellach y cysylltiad rhwng diraddio amgylcheddol a thorri hawliau dynol a gallai ddangos y gellir dal gwladwriaeth yn atebol am droseddau hawliau dynol a achosir gan halogiad amgylcheddol. Gallai'r achos gael effaith ddwys ar yr IAHRS, yn enwedig os yw'r Comisiwn a'r Llys yn dal y Wladwriaeth yn gyfrifol am y troseddau hawliau dynol a honnir gan y deisebwyr.
Yn nhermau cyfreithiol, dywedir i'r gymuned godi 'deiseb' (neu 'betisiwn') yn erbyn y Wladwriaeth, Periw.
Pan gafodd y ddeiseb ei ffeilio yn 2006, roedd La Oroya yn un o ddeg dinas mwyaf halogedig y byd. Yn ôl y deisebwyr (y gymuned), mae'r boblogaeth, yn enwedig plant a merched beichiog, wedi bod yn agored i lefelau uchel o blwm, arsenig, a chadmiwm oherwydd gweithgaredd mwyndoddwr Doe Run. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r lefelau hyn yn uwch na'r lefel uchaf a ganiateir gan Sefydliad Iechyd y Byd. Cynhaliwyd pedwar prawf gwaed, ym 1999, 2000, 2001, a 2005 i wirio poblogaeth lefelau plwm pobl La Oroya a dangosodd y canlyniadau fod y lefelau plwm yn uwch na'r safon a ganiateir ac yn uniongyrchol gysylltiedig â gweithgaredd y gwaith metal. Nododd y Wladwriaeth mewn adroddiad bod y lefelau hyn o halogi yn ganlyniad uniongyrchol i'r gwaith metal.[4]
Cymuned La Oroya
[golygu | golygu cod]Mae pentref La Oroya, Periw wedi'i leoli ar uchder o 3,700 metr yn yr Andes Periw, 175km o Lima, ar hyd y briffordd ganolog ac Afon Mantaro yn Nhalaith Yauli. Mewn cymhariaeth, mae'r Wyddfa yn 1,085 metr. Amgylchynir y pentref gan fynyddoedd garw, sy'n gwneud yr ardal yn agored i dymheredd unigryw, gwrthdroedig, sy'n cadw'r llygredd-aer dros y ddinas. Mae 65% o boblogaeth Talaith Yauli yn byw o dan y llinell dlodi ac nid oes gan y rhan fwyaf o'r gymuned wasanaethau sylfaenol. Ceir tua 30,000 o drigolion yn La Oroya, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n gweithio yn y mwyndoddwr lleol.[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ aida-americas.org; adalwyd 16 Mai 2023.
- ↑ Hugh O'Shaughnessy in La Oroya, Peru (2007-08-12). "Poisoned city fights to save its children". London: Observer.guardian.co.uk. Cyrchwyd 2012-08-11.
- ↑ "Doe Run 10 K 2006". Sec.gov. Cyrchwyd 2012-08-11.
- ↑ corteidh.or.cr' adalwyd 17 Mai 2023.
- ↑ corteidh.or.cr' adalwyd 17 Mai 2023.