Dibenyddiaeth
Gwedd
Astudiaeth achosion terfynol drwy ystyried pwrpas, egwyddor neu amcan yw dibenyddiaeth,[1][2] bwriadaeth,[2][3] bwriadeg[4] neu teleoleg.[2][5] Gosododd Aristotlys seiliau dibenyddol i athroniaeth y Gorllewin, gan honni bod rhai ffenomenau i'w hesbonio orau yn nhermau bwriad neu bwrpas yn hytrach nag achos. Yn ei ystyr ddiwinyddol, y gred fod amcan neu gynllun arbennig i holl ddatblygiadau'r cread yw dibenyddiaeth, ac felly'r ddadl ddibenyddol yw'r athrawiaeth fod tystiolaeth i bwrpas neu gynllun yn y bydysawd, a bod hyn yn brawf o fodolaeth cynllunydd megis Duw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ dibenyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Geiriadur yr Academi, [teleologism].
- ↑ bwriadaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
- ↑ bwriadeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
- ↑ teleoleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.