Ertuğrul Osman
Gwedd
Ertuğrul Osman | |
---|---|
Ganwyd | 18 Awst 1912 Istanbul |
Bu farw | 23 Medi 2009 Istanbul |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd, Twrci |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Tad | Şehzade Mehmed Burhaneddin |
Llinach | Ottoman dynasty, Osmanoğlu family |
Tywysog Otomanaidd oedd Ertuğrul Osman neu Osman Ertuğrul Osmanoğlu (18 Awst 1912 – 23 Medi 2009), oedd yn bennaeth brenhinllin yr Otomaniaid o 1994 hyd ei farwolaeth. Ef oedd yr ŵyr byw olaf i Ymerawdwr Otomanaidd,[1] sef Abdul Hamid II a deyrnasodd o 1876 hyd 1909.[2]
Ganwyd yn Istanbwl ym 1912, a threuliodd mwy na 60 mlynedd yn byw yn Ninas Efrog Newydd wedi i'w deulu gael eu halltudio gan Mustafa Kemal Atatürk yn sgil sefydlu'r Weriniaeth Dwrcaidd.[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Obituary: Ertugrul Osman. The Daily Telegraph (27 Medi 2009). Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) Bernstein, Fred A. (24 Medi 2009). Ertugrul Osman, Link to Ottoman Dynasty, Dies at 97. The New York Times. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) Hardy, Roger (24 Medi 2009). 'Last Ottoman' dies in Istanbul. BBC. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2012.
Eginyn erthygl sydd uchod am frenhiniaeth neu aelod o deulu brenhinol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.