Lleuwen Steffan
Lleuwen Steffan | |
---|---|
Clawr yr albwm Tân gan Lleuwen | |
Ganwyd | 1979 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Gwefan | http://www.lleuwen.com |
Cantores a chyfansoddwraig yw Lleuwen Steffan (ganwyd 1979)[1] sy'n canu yn Gymraeg a Llydaweg. Mae hi'n perfformio dan yr enw Lleuwen[2][3] ac mae hi wedi defnyddio'r enw Lleuwen Tangi[3] yn ogystal. Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel cyfansoddwraig caneuon barddononol. Mae ei cherddoriaeth yn cynnwys dehongliadau o emynau[2] yn ogystal â dylanwadau jazz a genres eraill. Mae hi hefyd wedi actio yn achlysurol gan ymddangos yn cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Merch yr Eog yn 2016[4].
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Lleuwen yn briod gyda'r bardd Lan Tangi yn Llydaw. Mae hi'n byw gydag anhwylder deubegwn[5][6] ac wedi goresgyn problemau gydag alcohol.[5] Mae ganddi ddau o blant[6], ac mae hi'n ferch i'r canwr Steve Eaves ac yn chwaer i'r awdures Manon Steffan Ros.
Albymau
[golygu | golygu cod]- Cyfnos (fel rhan o'r grŵp Acoustique, 2002)[7]
- Duw â Ŵyr (2005)[8]
- Penmon (2007)[8]
- Tân (2011)[8]
- Gwn Glân Beibl Budr (2018)[9]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Enillodd wobr Prizioù yn 2012 ar gyfer yr albwm Llydaweg orau, ar gyfer ei halbwm Tân.
Lleuwen oedd enillydd cystadleuaeth Liet International 2013 gyda'i chân Ar Gouloù Bev[3].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 20 Hydref 2020.
- ↑ 2.0 2.1 "Lleuwen yn teithio capeli Cymru gyda'i albwm newydd". Golwg360. 2019-01-11. Cyrchwyd 2020-10-07.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 ljazzn (2013-01-21). "Lleuwen wins Liet International". News, reviews, features and comment from the London jazz scene and beyond (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-07.
- ↑ "Merch yr Eog / Merc'h an Eog". Theatr Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-30. Cyrchwyd 2020-10-07.
- ↑ 5.0 5.1 "Beti a'i Phobol, 1 Mawrth 2020". www.bbc.co.uk. 2020-03-01. Cyrchwyd 2020-10-07.
- ↑ 6.0 6.1 "Dau Begwn Lleuwen Steffan". BBC Cymru Fyw. 2020-03-02. Cyrchwyd 2020-10-07.
- ↑ "Acoustique". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-07.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 "Lleuwen Steffan". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-07.
- ↑ "Gwn Glân Beibl Budr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-21. Cyrchwyd 2020-10-07.