Mary Vaughan Jones
Mary Vaughan Jones | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mai 1918 Maenan |
Bu farw | 1983 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Athrawes a nofelydd plant Cymraeg oedd Mary Vaughan Jones (28 Mai 1918 - Chwefror 1983).[1] Mae'n adnabyddus am ei storiau i blant ifanc yn cynnwys Sali Mali a'i ffrindiau.
Ganwyd yn Wigfa, Maenan[2] ger Llanrwst.[3][4]. Bu farw yn 1983 yn ardal Rhuddlan, Clwyd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd tua deugain o lyfrau dros ei hoes, gan gyfrannu'n gyson i faes llenyddiaeth plant a cylchgronnau'r Urdd. Yn ystod ei gyrfa fel athrawes, dysgodd yn:
- Ysgol Gynradd Cwm Penanner (1940–1943)
- Ysgol Lluest Aberystwyth (1943–1949)
- Ysgol Baratoad Aber-mad (1949–1953)
- Ysgol Gymraeg Aberystwyth (1953–1958)
- Darilthydd yng Ngholeg y Normal, Bangor (1958–1972)
Sefydlwyd gwobr er mwyn coffáu ei chyfraniad i lenyddiaeth.
Gwaith
[golygu | golygu cod]- Cyfres Darllen Stori: 1. Sali Mali (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1969)
- Cyfres Darllen Stori: 2. Y Pry Bach Tew (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1969)
- Cyfres Darllen Stori: 3. Annwyd y Pry Bach Tew (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1972)
- Cyfres Darllen Stori: 4. Jaci Soch (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1969)
- Cyfres Darllen Stori: 5: Tomos Caradog, 1969
- Cyfres Darllen Stori: 7. Pastai Tomos Caradog (Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ebrill 1997)
- Cyfres Darllen Stori: 8. Morgan a Magi Ann (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1975, ac wedyn yn 2002)
- Cyfres Darllen Stori: 9. Siencyn (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1975)
- Cyfres Darllen Stori: Bobi Jo (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1976)
- Llyfrau Dau Dau: Rhigymau Jac y Jwc
- Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Jac y Jwc
- Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Jac y Jwc
- Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Nicw Nacw
- Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Nicw Nacw
- Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Dwmplen Malwoden
- Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Dwmplen Malwoden
- Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Guto
- Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Guto
- Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Culhwch
- Llyfrau Dau Dau: Storïau Llafar 1
- Llyfrau Dau Dau: Canllaw Athrawon
- Cynllun y Porth: Ni ein Hunain - Y Goeden
- Y Dynion Bach Od
- Ben y Garddwr a Storïau Eraill (Enillydd Gwobr Tir na n-Og 1989)
- Sami Seimon a Storïau Eraill
- Begw'r Iâr yn Mynd am Dro (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1980)
Ail-gyhoeddir y llyfrau rhain gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion. Seilir nifer o lyfrau newydd ar Sali Mali a'i chymeriadau eraill, er enghraifft: Sali Mali a'r Ceffyl Gwyllt, Dylan Williams, 2006. Seilir nifer o raglenni teledu a chynnyrch cysylltiedig ar ei chymeriadau hefyd gan S4C. Darlunwyr y lluniau gwreiddiol yn lyfrau Mary Vaughan Jones gan Jac Jones.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Llythyr yn Eco'r Wyddfa. Eco'r Wyddfa (Rhagfyr 1983). Adalwyd ar 3 Chwefror 2016.
- ↑ Firs Cottage: Mary and Jack Marrow of Firs Cottage, Maenan, delve into the history of their home, bbc.co.uk/wales/northwest
- ↑ Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru.
Ebrill/Mai/Mehefin 1918; Mary V Jones; Cyfenw mam cyn priodi: Vaughan; Ardal Cofrestru: Llanrwst; Cyfrol: 11b; Tudalen 0839 - ↑ Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru.
Ebrill/Mai/Mehefin 1983; Mary Vaughan Jones; Dyddiad geni: 28 Mai 1918; Ardal Cofrestru: Rhuddlan, Clwyd; Cyfrol: 24; Tudalen 529