Matthew Vaughan-Davies, Barwn 1af Ystwyth
Matthew Vaughan-Davies, Barwn 1af Ystwyth | |
---|---|
Ganwyd | 17 Rhagfyr 1840 Plas Tanybwlch |
Bu farw | 21 Awst 1935 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Matthew Davies |
Mam | Emma Davies |
Priod | Mary Powell |
Roedd Matthew Lewis Vaughan-Davies, Barwn 1 af Ystwyth, (17 Rhagfyr, 1840 – 21 Awst, 1935 yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Ceredigion rhwng 1895 a 1921.[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Vaughan-Davies yn Nhanybwlch, Ceredigion, yn fab i Matthew Davies, ac Emma (née Davies) ei wraig. Prin oedd ei fanteision addysg, methiant bu ei unig gyfnod o addysg ffurfiol, sef blwyddyn yn Harrow. Cafodd ei ddisgrifio fel ill-educated, uncultured, ill-informed [2].
Yn di briod hyd ei fod yn 48 mlwydd oed honnir ei fod wedi cael nifer o berthnasau all briodasol. Ym mysg ei gariadon honedig bu Mrs Powell, Nanteos, a oedd yn nodi bod ei gŵr oddi cartref trwy chwifio lliain gwely o bolyn baner Nanteos a Gladys Ashton o Welston Court Sir Benfro.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd Davies yn dirfeddiannwr, ac yn feistr yr helfa. Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar gyfer Ceredigion a chadeirydd mainc ynadon Llanilar. Bu'n uchel siryf Ceredigion ym 1875 [4] ac yn ddirprwy rhaglaw'r sir. Roedd yn aelod o Fwrdd gwarcheidwad y Tlodion Aberystwyth a Bwrdd Glanweithdra Aberystwyth Wledig. Roedd yn is gapten er anrhydedd ar Filisia Ceredigion, Brycheiniog a Maesyfed.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Fel y mwyafrif o fan bonheddwyr gwledig Cymru'r cyfnod roedd Davies yn Dori rhonc. Safodd fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholiad cyffredinol 1885 [5] gan golli'n drwm i David Davies, Llandinam yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol aflwyddiannus eto ym 1889, i geisio sedd Llanfarian yn yr etholiad cyntaf i Gyngor Sir Ceredigion.[6]
Er ei fod yn sgweier ag ystâd o 3,674 erw roedd o'n weddol dlawd, dim ond £974 y flwyddyn oedd incwm rent yr ystâd. Ym 1889 priododd Mary Jenkins, gweddw gefnog o Abertawe a thrwy'r briodas daeth newid mawr er gwell i'w sefyllfa ariannol [7]. Roedd Mary Jenkins yn ffeminist, yn swffragét ac yn gefnogwr blaenllaw i'r Blaid Ryddfrydol. I ennill ei chalon ac, yn bwysicach byth ei phwrs, bu'n rhaid i Vaughan-Davies newid ei liwiau gwleidyddol.
Yn etholiad cyffredinol 1892, rhoddodd Vaughan-Davies ei gefnogaeth i'r Aelod Seneddol Rhyddfrydol William Bowen Rowlands. Pan roddodd Rowlands wybod i'r gymdeithas Ryddfrydol ei fod yn bwriadu sefyll i lawr o'i sedd daeth yn hysbys yn fuan fod gan Vaughan-Davies ddiddordeb yn yr enwebiad Rhyddfrydol. Gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan ffigurau blaenllaw yn y Gymdeithas Ryddfrydol leol, megis y masnachwr o Aberaeron J.M. Howell a oedd yn amau ymrwymiad Davies i bolisïau Rhyddfrydol. Amheuaeth a chafodd ei brofi'n gywir yn ddiweddarach gan dystiolaeth am ei ymddygiad tuag at denantiaid ar ei ystâd a roddwyd ger bron ymchwiliad gan Gomisiwn Tir Cymru ar y berthynas rhwng tirfeddianwyr a'u tenantiaid.
Llwyddodd Vaughan-Davies i ennill yr enwebiad er gwaethaf ei wrthwynebwyr. Roedd Cymdeithas Ryddfrydol Ceredigion mewn trafferthion ariannol cyn i Vaughan-Davies, a'i gyfoeth trwy briodas, cael ei ethol yn drysorydd y gangen. Dyma yn ôl John Gibson golygydd radical y Cambrian News oedd y rheswm dros ei ddewis - rhoi'r geiniog uwchlaw egwyddor.[8] Mae'r Athro Kenneth O. Morgan yn awgrymu bod y rheswm yn fwy cymhleth a'i bod o wedi derbyn cefnogaeth Rhyddfrydwyr gwledig y sir oedd yn teimlo'n chwerw tuag at ddosbarth canol proffesiynol trefol llefydd fel Aberystwyth a oedd yn ddechrau cael goruchafiaeth yn y Blaid Ryddfrydol.[9]
Enillodd Vaughan-Davies y sedd dros y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol 1895 a chadwodd ei le hyd iddo gael ei ddyrchafu i'r bendefigaeth fel Barwn Cyntaf Ystwyth ym 1921.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw'r Arglwydd Ystwyth yn 94 mlwydd oed. Gan na fu iddo blant, bu farw ei deitl gyda fo.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (2007, December 01). Ystwyth, 1st Baron cr 1921, of Tan-y-Bwlch, (Matthew Lewis Vaughan-Davies) (17 Dec. 1840–21 Aug. 1935). WHO'S WHO & WHO WAS WHO Retrieved 22 Feb. 2019
- ↑ Morgan yng Ngheredigion Cyf V tud 326
- ↑ Palmer. Matthew Lewis Vaughan Davies - ambitious cad or assiduous politician? tud 73
- ↑ "LOCALANDDISTRICT - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1875-02-12. Cyrchwyd 2019-02-23.
- ↑ "TO THE ELECTORS OF THE COUNTY OFC ARDIGAN - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1885-11-07. Cyrchwyd 2019-02-23.
- ↑ "CARDIGANSHIRE COUNTY COUNCIL - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1888-12-07. Cyrchwyd 2019-02-23.
- ↑ "ABRRYSTWYTH - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1889-12-14. Cyrchwyd 2019-02-23.
- ↑ "THE CONTEST IN CARDIGANSHIRE - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1895-07-05. Cyrchwyd 2019-02-23.
- ↑ Morgan. "Cardiganshire Politics": tud 326-7
- Morgan, Kenneth O. (1967). "Cardiganshire Politics: The Liberal Ascendancy 1885-1923". Ceredigion : Cylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi 5 (4): 311–346. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1093205/1094650/356#?xywh=-81%2C896%2C2748%2C1792.
- Palmer, Caroline (2004). "Matthew Lewis Vaughan Davies - ambitious cad or assiduous politician?". Ceredigion : Cylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi 14 (4): 73–104. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1109629/1109864/78#?xywh=-1826%2C220%2C5998%2C3913.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Bowen Rowlands |
Aelod Seneddol | Olynydd: Ernest Evans |