Neidio i'r cynnwys

Olwyn Stepney

Oddi ar Wicipedia

Crëwyd yr olwyn sbâr neu olwyn Stepney cyntaf gan y brodyr Thomas a Walter Davies ym 1904 yn Llanelli. Roedd gan y brodyr siop yn Stryd Stepney, ac yn nes ymlaen gwaith trwsio modurau a beiciau tu ôl i Westy Stepney. Clymer yr olwyn i'r un sydd wedi cael niwed. Ffurfiasant cwmni ym 1906, a ffatri yn Ffordd Copperworks, Llanelli, a gwerthwyd yr olwynion dros Ewrop a Gogledd America.[1]

Hyd at heddiw, enw arall am olwyn sbâr yn yr India yw 'Stepney Wheel'.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]