Piler y Badwyr
Adluniad o Biler y Badwyr yn Amgueddfa Musée de Cluny | |
Enghraifft o'r canlynol | colofn, arteffact archaeolegol, cerflun |
---|---|
Deunydd | calchfaen |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Rhanbarth | Paris |
Gwefan | https://www.musee-moyenage.fr/collection/oeuvre/pilier-des-nautes.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Colofn Rufeinig anferth a godwyd yn Lutetia (Paris fodern) i anrhydeddu'r duw Iau gan urdd o fadwyr (neu longwyr) yn y ganrif 1af OC yw Piler y Badwyr (Ffrangeg: ''Pilier des nautes''). Dyma'r heneb hynaf ym Mharis, ac un o'r darnau cynharaf o gelf Gâl-Rufeinig gynrychioliadol i gael arysgrif ysgrifenedig.[1]
Nautae Parisiaci (morwyr y Parisii, a oedd yn llwyth Galaidd) yw enw'r Rhufeiniaid ar yr heneb.[2] Fe'i darganfuwyd mewn mur dinas o'r 4g yn Île de la Cité ac erbyn hyn caiff ei arddangos yn ffrigidariwm Thermes de Cluny.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Arysgrif
[golygu | golygu cod]Wedi'i ysgrifennu yn Lladin gyda rhai nodweddion yn iaith y Celtiaid yng ngorllewin a chanolbarth Ewrop, sef y Galeg, mae'r arysgrif yn cymysgu duwiau Rhufeinig â duwiau sy'n amlwg yn Geltaidd. Gellir dyddio'r golofn gan iddi gael ei chysegru i Tiberius Caesar Augustus (a nodir ar y golofn) sef Tiberius a ddaeth yn ymerawdwr yn 14 OC. Fe'i sefydlwyd yn gyhoeddus (publice posierunt) gan urdd morwyr Lutetia, o civitas y Parisii (nautae Parisiaci). Masnachwyr a deithiai ar hyd y Seine oedd y morwyr hyn.
I'r duw Iau mae'r prif gysegriad, sy'n dweud Iovis Optimus Maximus ("Iau Mawr a'r Gorau"). Mae enwau'r ymerawdwr a'r duwdod goruchaf yn ymddangos yn y cyflwr derbyniol fel derbynwyr y cysegriad. Ceir enwau'r duwiau eraill yn y cyflwr goddrychol, ac maent yn cyd-fynd â darluniau unigol o'r duwiau, sef (yn y drefn y maent yn ymddangos isod) Iau, Tarvos Trigaranos (y Tarw gyda thri Chraen), Volcanos (Fwlcan), Esos, Cernunnos, Castor, Smertrios, a Fortuna.
Mae'r cysegriad fel a ganlyn:
- Tib(erio) Caesare /
- Aug(usto) Ioui Optum[o] /
- Maxsumo /
- nautae Parisiaci /
- publice posierunt //
- Eurises // Senan[t] U[s]e[t]lo[n] [-] //
- Iouis // Taruos Trigaranus //
- Volcanus // Esus //
- [C]ernunnos // Castor // [---] //
- Smer[---] //
- Fort[una] // [--]TVS[--] // D[--]
Ochr 1 | Ochr 2 | Ochr 3 | Ochr 4 |
---|---|---|---|
[C]ernunnos | Smer[triios] | Castor | [Pollux] |
Iouis | Esus | Taruos Trigaranus | Volcanus |
Tib(erio) Caesare Aug(usto) Iovi Optum[o] Maxsumo nautae Parisiaci publice posierunt | [tri dyn arfog heb farf] | Eurises [tri dyn barfog] | Senan[t] U[s]e[t]lo[n] [--] [tri ffigwr gwrywaidd a benywaidd sy'n gwisgo gynau] |
Fort[una gydag Iuno?] | [dwy dduwies] | [--]V[--] [Mawrth gyda'r gymar (Gwener?)] | [Mercurius gyda Rosmerta?] |
-
Smertrios
-
Esus
-
Cernunnos
-
Tarvos Trigaranos
-
Fwlcan
-
Iau
Bloc y cysegriad
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hatt, Jean-Jacques (1952). "Les monuments gallo-romains de Paris, et les origines de la sculpture votive en Gaule romaine. I. Du pilier des nautes de Paris à la colonne de Mayence" (yn fr). Revue Archéologique I: 68–83.
- ↑ Breviary, A. (2005). "Celticism". In Koch, John T. (gol.). Celtic Culture : A Historical Encyclopedia. 1. ABC-CLIO. t. 396. ISBN 978-1851094400.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Carbonnières, Philippe (1997). Lutèce : Paris ville romaine. Collection "Découvertes Gallimard". 330. Paris: Gallimard/Paris-Musées. ISBN 2-07-053389-1.
- d'Arbois de Jubainville, G. (1898). "Esus, Tarvos, Trigaranus". Revue Celtique XIX: 245–251.
- Harl, Ortolf, "Kaiser Tiberius und die nautae Parisiaci: Das Pfeilermonument aus Notre-Dame de Paris und seine Stellung in Religion, Kunst und Wirtschaft Nordgalliens", Introduction by Henri Lavagne: "Le pilier des Nautes, hier et aujourd'hui" (Monuments Piot, 99, 2019, p. 71-225.
- Lejeune, Michel (1988) Recueil des inscriptions gauloises, volume 2-1 Textes gallo-étrusques. Textes gallo-latins sur pierre. Paris, Editions du CNRS. pp. 166–169.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Ffrangeg gyda mwy o ddelweddau o'r piler Archifwyd 2009-01-12 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Iseldireg gyda lluniau o'r piler