Pla biwbonig
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | y pla, clefyd nod lymff, clefyd |
Symptomau | Oerni, llethdod |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o dri math o bla a achosir gan facteria Yersinia pestis yw pla biwbonig neu pla llinorog.[1] ("Pla septisemig" a "phla niwmonig" yw'r ddau arall.) Lledaenir pla bubonig fel arfer gan chwain heintus o anifeiliaid bach (yn enwedig o lygod mawr). Ar ôl i chwain heintus frathu bod dynol, mae'r bacteria'n teithio trwy'r pibellau lymff i nod lymff, gan beri iddo chwyddo. Un i saith diwrnod ar ôl i'r dioddefwr gael ei heintio, bydd ef neu hi'n profi symptomau gan gynnwys twymyn, cur pen, a chwydu. Mae'r nodau lymff yn yr ardal agosaf at y brathiad chwain yn mynd yn chwyddedig ac yn boenus, ac efallai y byddant yn torri ar agor.
Heb driniaeth, mae pla yn arwain at farwolaeth o 30% i 90% o'r rhai sydd wedi'u heintio. Fel arfer mae marwolaeth, os yw'n digwydd, yn digwydd o fewn deg diwrnod. Nid oes brechlyn effeithiol i atal pla. Mae sawl gwrthfiotig yn effeithiol ar gyfer triniaeth, ond hyd yn oed gyda thriniaeth, mae tua 10% o ddioddefwyr yn marw.
Rhwng 2010 a 2015 roedd 3,248 o achosion wedi'u dogfennu ledled y byd, a arweiniodd at 584 o farwolaethau. Y gwledydd sydd â'r nifer fwyaf o achosion yw Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Madagasgar a Periw.
Y pla biwbonig oedd achos y Pla Du a ysgubodd trwy Asia, Ewrop ac Affrica yn y 14g gan ladd amcangyfrif o 50 miliwn o bobl. Roedd y clefyd hefyd yn gyfrifol am y Pla Iwstinian yn yr Ymerodraeth Fysantaidd yn y 6g, yn ogystal â'r epidemig enfawr a effeithiodd ar Tsieina, Mongolia ac India a ddechreuodd yn nhalaith Yunnan ym 1855.
Mae'r term "biwbonig" yn deillio o'r gair Groeg βουβών, sy'n golygu "arffed".