Pobl groenliw
Gwedd
Ymgais yw pobl groenliw i lunio term Cymraeg am people of colour, ar batrwm croenddu, croenwyn a chroendywyll. Ei nod yw bod yn derm cadarnhaol sy'n torri cwys newydd yn rhydd o dermau hiliol hanesyddol. Mae'n derm sy'n cwmpasu pawb nad ydyn nhw'n wyn, mewn ffordd gynhwysol sy'n awgrymu cydsefyll rhwng gwahanol grwpiau hiliol. Mae termau cysylltiedig yn cynnwys person croenliw, menyw groenliw, dyn croenliw a chymunedau croenliw.[1][2][3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Morris, Carl (2019-09-02). "Meddwl am dermau Cymraeg am ethnigrwydd, hil, ac ati". Carl Morris. Cyrchwyd 2020-02-22.
- ↑ "JISCMail - WELSH-TERMAU-CYMRAEG Archives". www.jiscmail.ac.uk. Cyrchwyd 2020-02-22.
- ↑ "Dadgoloneiddo'r Archif". Llenyddiaeth Cymru. Cyrchwyd 2020-02-22.