Pont nofiol
Gwedd
Pont sydd yn defnyddio badau isel neu arnofion eraill i nofio ar y dŵr yw pont nofiol, pont ysgraffau, neu bont gychod. Dibynna cryfder y bont i ddal pwysau ar hynofedd yr hyn sy'n ei chynnal. Hwn yw'r math amlaf o bont filwrol a gynhyrchir dros dro er mwyn cludo milwyr ac offer ar draws afon neu lyn, ond defnyddir pontydd nofiol am resymau eraill hefyd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) pontoon bridge. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2017.