Neidio i'r cynnwys

Rhizostoma pulmo

Oddi ar Wicipedia
Rhizostoma pulmo
Rhizostoma pulmo
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Cnidaria
Dosbarth: Scyphozoa
Urdd: Rhizostomae
Teulu: Rhizostomatidae
Genws: Rhizostoma
Rhywogaeth: R. pulmo
Enw deuenwol
Rhizostoma pulmo
Macri, 1778

Rhywogaeth gyffredin o slefren fôr fawr yw Rhizostoma pulmo (Cymraeg: slefren gasgen, slefren faril).[1] Yn nodweddiadol mae gan slefrod casgen faint o hyd at 40 cm ar draws, ond yn gallan nhw gyrraedd 150 cm neu fwy.

Maen nhw'n heigio mewn dyfroedd arfordirol cynnes ddiwedd y gwanwyn er mwyn bwyta'r plancton sydd ar gael mewn dyfroedd bas. Yn ystod misoedd Mai a Mehefin, mae nifer fawr ohonyn nhw'n cael eu golchi i’r lan, ac maen nhw i'w cael yn aml ar draethau. Maen nhw'n gyffredin oddi ar arfordir Ynysoedd Prydain ac enwedig ym Môr Iwerddon yn ystod misoedd yr haf.

Mae ganddyn nhw wyth braich ffriliog, sy’n cynnwys tentaclau brathu bach sy’n amghylchynu cannoedd o gegau bach. Nid yw eu brath yn beryglus i bobl fel rheol, ond mae'n achosi teimlad llosgi ar y croen, a gall arwain at lid a dermatitis.

Maen nhw'n hoff fwyd y grwbanod môr lledrgefn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Slefren fôr casgen", The Wildlife Trusts; adalwyd 3 Mai 2021

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: