Neidio i'r cynnwys

Titradiad

Oddi ar Wicipedia
Animeiddiad titrad

Dull cyffredin labordy o gyfrifo crynodiad hydoddiannau yw titradiad.

Enghraifft o ditradiad

[golygu | golygu cod]

Mae'r titradiad hwn rhwng asid ac alcali. Dyma enghraifft o arbrawf i ddarganfod crynodiad asid hydroclorig HCl(d) sy'n anhysbys gan ddefnyddio hydoddiant safonol o sodiwm carbonad sydd â chrynodiad hysbys.

Mas atomig cymharol Na2CO3 = 284

Creu Hydoddiant Safonol

[golygu | golygu cod]
  1. Hydoddiant safonol yw hydoddiant gyda chrynodiad hysbys. Yn yr arbrawf hon paratöir hydoddiant safonol o sodiwm carbonad.
  2. Pwysir 1.35g o sodiwm carbonad yn fanwl mewn bicer.
  3. Ychwanegir ychydig o ddŵr distyll i hydoddi'r sodiwm carbonad ac fe'i cymysgir efo rhoden wydr.
  4. Rhoddir yr hydoddiant i mewn i fflasg safonol ac ychwanegir dŵr distyll iddo nes cyrraedd 250 cm².
  5. Fe'i ysgwydir i sicrhau fod yr hydoddiant yn un homogenaidd sef hyddoddiant gyda chrynodiad cyson trwy'r fflasg gyfan.

Y titradiad

[golygu | golygu cod]
  1. Mesurir 25 cm³ o'r hydoddiant safonol gan ddefnyddio piped ac fe'i ychwanegir i fflasg gonigol.
  2. Ychwanegir y dangosydd methyl oren iddo a fe dröith yr hydoddiant yn felyn.
  3. Rhoddir yr asid hydroclorig yn y bwred gan ddefnyddio twndis. Llenwir y bwred nes cyrraedd 0.00 cm³ ar y menisgws.
  4. Agorir y tap er mwyn i'r asid niwtralu'r hydoddiant sodiwm carbonad.
  5. Newidith liw'r hydodiant o felyn i binc ar y diweddbwynt. Dyma'r pwynt niwtraliad a dyma'r darlleniad cyntaf wrth y bwred.
  6. Gwneir y titrad tair gwaith i sicrhau fod darlleniadau'r bwred o fewn 0.25 cm³ o'i gilydd.

Canlyniadau

[golygu | golygu cod]

Dyma ddarlleniadau'r hydoddiant sodiwm carbonad a ychwanegwyd o'r bwred.
Titr 1: 26.75 cm³
Titr 2: 26.80 cm³
Titr 3: 27.00 cm³

Titr Cyfartalog: 26.85 cm³

Y Cyfrifion

[golygu | golygu cod]

1. Mae'n rhaid cyfrifo crynodiad y sodiwm carbonad (mewn mol/dm³). Yn gyntaf mae'n rhaid dod o hyd i nifer y molau gan ddefnyddio'r fformiwla:

lle:
Mas yw pwysau'r sodiwm carbonad solid mewn gramiau.
Mr yw mas atomig cymharol sodiwm carbonad.

rhaid lluosi â 4 oherwydd dyma grynodiad 250 cm³ ac felly mae'n rhaid i'r ateb fod mewn dm³ (sef 1000 cm³)

2. Yn nesaf fe ddefnyddir y canlyniadau i ddarganfod crynodiad yr asid hydroclorig.

3. Darganfyddwyd taw gwerth y molau yw 2 ac 1 o'r hafaliad symbol.

4. Rhaid aildrefnu'r fformiwla i gael crynodiad yr asid yn destun.

Felly, crynodiad yr asid = 0.03808 mol/dm3.

Gweler Hefyd

[golygu | golygu cod]