Tom Simpson
Tom Simpson | |
---|---|
Ganwyd | 30 Tachwedd 1937 Haswell |
Bu farw | 13 Gorffennaf 1967 Mont Ventoux |
Man preswyl | Haswell |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Gwobr/au | Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Peugeot cycling team, Saint-Raphaël-Gitane-Dunlop, Alcyon |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Seiclwr proffesiynol Seisnig oedd Tom Simpson (30 Tachwedd 1937 – 13 Gorffennaf 1967).
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]- 1961
- 1af Ronde van Vlaanderen
- 1962
- Deilydd y Maillot jaune am gyfnod byr yn ystod y Tour de France
- 1963
- 1af Bordeaux-Paris
- 1964
- 1af Milan-Sanremo
- 1965
- 1af Pencampwriaethau'r Byd, Rasio Ffordd, UCI
- 1965
- 1af Giro di Lombardia
- 1967
- 1af Paris-Nice
- 1967
- 1af Dau stage o'r Vuelta a España
Yn ogystal a'r buddugoliaethau hyn, bu Simpson yn derfod rasus yn aml yn y deg uchaf yn y Clasuron, ac enillodd sawl criterium a rasus eraill.
Fel seiclwr amatur, enillodd fedal efydd tîm dilyn yn Ngemau Olympaidd 1956, y fedal arian ar gyfer pursuit yng Ngemau'r Gymanwlad 1958 a medal arian (1956) ac aur (1958), ym mhencampwriaeth Cenedlaethol Pursuit 4000m, Prydain, ef oedd pencampwr ras allt British League of Racing Cyclists yn 1957, gan ennill y fedal arian yn yr un gystadleuaeth y flwyddyn ganlynol.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw o flinder ar lethrau Mont Ventoux yn ystod adran 13 y Tour de France yn 1967. Darganfu'r post mortem ei fod wedi cymryd amffetaminau ac alcohol, cyfuniad diuretic a brofodd i fod yn un marwol pan gyfunwyd hwy gyda'r tywydd poeth, y dringiad enwog galed Ventoux a'r ffaith y bu'n dioddef yn barod o anhwyldeb yr ystumog.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Complete Palmarès Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback
- Video of Simpson's final climb (online on April 28, 2006)
- Wheels Within Wheels documentary
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- William Fotheringham (2002) Put me back on my bike: In search of Tom Simpson (Yellow Jersey Press, Llundain)
Rhagflaenydd: Jan Janssen |
Pencampwr y Byd, Rasio Ffordd 1965 |
Olynydd: Rudi Altig |
Rhagflaenydd: Mary Rand |
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, BBC 1965 |
Olynydd: Bobby Moore |