Ystadegaeth gasgliadol
Ystadegaeth gasgliadol yw'r broses o ddefnyddio dadansoddi data i ddidynnu priodweddau sy'n sail i ddosbarthiad, o fewn tebygolrwydd.[1] [2] Mae'r gair 'casglaidol' ('dod i gasgliad'; inferential) yma'n cyfeirio at boblogaeth yng nghyd-destun dadansoddi'r ystadegau; er enghraifft, trwy brofi damcaniaethau a chanfod amcangyfrifon. Tybir bod y set ddata dan sylw yn sampl o boblogaeth fwy.
Gellir cyferbynnu ystadegau gasgliadol ag ystadegaeth ddisgrifiol, sydd yn ymwneud yn unig â phriodweddau'r data dan sylw, ac nid yw'n gorffwys ar rwyfau'r rhagdybiaeth bod y data'n dod o boblogaeth fwy.
Cyflwyniad
[golygu | golygu cod]Fel a nodwyd, mae ystadegaeth gasgliadol yn cynnig gosodiadau am boblogaeth neilltuol, gan ddefnyddio rhyw elfen o samplu, fel arfer.
O dderbyn damcaniaeth am boblogaeth (y dymunir ddod i gasliadau am hynny) yna mae ystadegaeth gasgliadol yn cynnwys dau beth: yn gyntaf, dewis model ystadegol addas o'r broses sy'n cywain y data, ac yn ail, diddwytho gosodiadau o'r model.
Dywed Konishi & Kitagawa, "Gellir ystyried y rhan fwyaf o broblemau o fewn ystadegaeth gasgliadol yn broblemau sy'n ymwenued â modelu ystadegol."[3][4] Yr un mor berthnasol i hyn yw'r hyn a ddywed yr ystadegydd David Cox, y rhan mwyaf allweddol (a phroblemus) o'r dadansoddi yw'r cyfnewid o'r pwnc dan sylw i'r model ystadegol."[5]
Casgliad rhesymegol ystadegaeth gasgliadol yw'r gosodiad ystadegol. Ymhlith y ffurfiau mwyaf cyffredin o ystadegau casgliadol mae:
- amcangyfrifbwynt h.y. gwerth arbennig, sy'n amcangyfrif o baramedrau sydd o ddiddordeb;
- cyfnodbwynt e.e. y cyfnod hyder (confidence interval) a elwir weithiau hefyd yn "amcangyfrif gosod" (set estimate). Hynny yw, cyfnod a lunir gan ddefnyddio set ddata a dynnir o'r boblogaeth fel bod y cyfnodu hyn yn cynnwys y paramedrau gwerth gwirioneddol, gyda'r tebygolrwydd ar y lefel hyder a osodwyd;
- cyfnod credadwy, h.y. set o werthoedd sy'n cynnwys;
- gwrthodiad o'r rhagdybiaeth;
- clystyru neu ddosbarthu'r pwyntiau data yn grwpiau.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ geiriadur.bangor.ac.uk; Y Termiadur Addysg; adalwyd 18 Ionawr 2019.
- ↑ Upton, G., Cook, I. (2008) Oxford Dictionary of Statistics, OUP. ISBN 978-0-19-954145-4
- ↑ Y dyfyniad yn yr iaith wreiddiol: "The majority of the problems in statistical inference can be considered to be problems related to statistical modeling".
- ↑ Konishi & Kitagawa (2008), tud. 75.
- ↑ Y dyfyniad yn yr iaith wreiddiol: "How [the] translation from subject-matter problem to statistical model is done is often the most critical part of an analysis". Cox (2006), tud. 197.