Athrawiaeth Monroe
Enghraifft o'r canlynol | athrawiaeth arlwyddol yr Unol Daleithiau, athrawiaeth polisi tramor |
---|---|
Crëwr | John Quincy Adams |
Rhan o | Latin America–United States relations |
Dechrau/Sefydlu | 1823 |
Lleoliad cyhoeddi | Washington |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Athrawiaeth bwysig ym mholisi tramor yr Unol Daleithiau yw Athrawiaeth Monroe a ddatganwyd gyntaf gan yr Arlywydd James Monroe (1817–25) yn ei anerchiad blynyddol i'r Gyngres ar 2 Rhagfyr 1823. Nod yr athrawiaeth yw atal ymyrraeth gan wledydd Ewrop yng nghyfandiroedd yr Amerig. Yn ei araith, fe luniodd Monroe bedwar pwynt polisi: ni fyddai Unol Daleithiau America ym ymyrryd â materion mewnol neu ryfeloedd Ewrop; byddai UDA yn cydnabod y trefedigaethau Ewropeaidd oedd wedi eu sefydlu'n barod yn yr Amerig a ni fyddai'n ymyrryd â'r tiriogaethau hynny; ni fyddai UDA yn cydnabod trefedigaethau newydd yn yr Amerig; a byddai llywodraeth UDA yn Washington yn ystyried yn weithred elyniaethus unrhyw ymgais gan yr Ewropeaid i orthrymu neu orchfygu unrhyw wlad yn yr Amerig.[1]
Yn nechrau'r 19g enillodd sawl rhan o America Sbaenaidd annibyniaeth ar Ymerodraeth Sbaen, a'r bobloedd yn y tiroedd hynny wedi eu hysbrydoli gan y chwyldroadau gweriniaethol yn Ffrainc ac UDA. Roedd yr Americanwyr yn pryderu bod gwledydd Ewropeaidd am ail-sefydlu neu ehangu eu hymerodraethau yn yr Amerig, yn enwedig Sbaen ym Mecsico a De America a Rwsia yng Ngogledd America. Ar y cyfan, roedd Prydain Fawr am fasnachu â'r gweriniaethau newydd yn hytrach na cheisio'u concro, ac felly awgrymodd yr Ysgrifennydd Tramor George Canning i Brydain ac UDA gytuno yn erbyn rhagor o drefedigaethu gan wledydd Ewrop yn yr Amerig. Mynnai datganiad unochrog Americanaidd gan John Quincy Adams, Ysgrifennydd y Wladwriaeth dan Monroe, ac felly lluniwyd yr araith i'r Gyngres.[2]
I ddechrau, effaith gyfyng iawn a gafodd yr athrawiaeth. Roedd Monroe a Adams ill dau yn ymwybodol o ddibyniaeth eu gwlad ar y Llynges Frenhinol i batrolio dyfroedd yr Amerig. Ni chafodd yr athrawiaeth ei galw i rym gan Washington yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig yn y 1930au, er i'r Prydeinwyr cipio Ynysoedd y Falklands ac ymosod ar diroedd yn Ne America. Yn ddiweddarach, rhybuddiodd yr Arlywydd James K. Polk Sbaen a Phrydain yn erbyn ehangu eu tiriogaeth yng Ngogledd America.
Wrth i rym milwrol UDA gynyddu yn niwedd y 19g, daeth gwleidyddion Americanaidd i ystyried yr athrawiaeth fel mynegiant taw eu maes dylanwad hwy oedd holl diroedd yr Amerig. Ym 1904, ychwanegodd yr Arlywydd Theodore Roosevelt (1901–09) yr hyn a elwir Atodiad Roosevelt at yr athrawiaeth. Mae'r polisi hwn yn dadlau dros hawl yr Americanwyr i blismona anghydfodau rhwng gwledydd bychain yn yr Amerig a gwledydd Ewrop. Defnyddiwyd hyn i gyfiawnhau goresgyniadau gan luoedd Americanaidd yng Nghiwba (1906–09), Nicaragwa (1912–33), porthladd Veracruz ym Mecsico (1914), Haiti (1915–34), a Gweriniaeth Dominica (1916–24).
Er y dadleuai taw athrawiaeth wrth-imperialaidd yw Athrawiaeth Monroe, mae nifer yn ei beirniadu fel esgus i Washington ymddwyn fel grym ymerodrol dros wledydd eraill yr Amerig. Mae'r CIA wedi ymyrryd mewn gwleidyddiaeth sawl gwlad yn America Ladin, gan gynnwys Gwatemala (1954), Ciwba (1961), a Tsile (1973). Lansiwyd goresgyniadau yn Grenada (1983) a Phanama (1989) i newid llywodraeth yn y gwledydd hynny.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Monroe Doctrine. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mai 2018.
- ↑ Christopher Abel, "Monroe Doctrine" yn Thomas Benjamin (gol.), Encyclopedia of Western Colonialism since 1450, cyfrol 1 (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007) t. 807.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Collin, Richard H. Theodore Roosevelt's Caribbean: The Panama Canal, the Monroe Doctrine, and the Latin American Context (Baton Rouge: Louisiana State University Press, 1991).
- Perkins, Dexter. A History of the Monroe Doctrine (Boston: Little, Brown, 1955).